Ynni Sir Gâr - Adnoddau
English

Adnoddau addysgiadol

Community energy - a drawing of a community gathering

Mae Ynni Sir Gâr yn angerddol ynglŷn â gweithio gydag ysgolion lleol i hybu dealltwriaeth a gwybodaeth ynglŷn â'r argyfwng hinsawdd a sut mae creu atebion lleol. Isod mae yna ddolenni i adnoddau dysgu a all helpu athrawon a dysgwyr i ddeall mwy am y sector Ynni Cymunedol ac i hybu dealltwriaeth am yr angen am fwy o weithgarwch lleol i ateb yr herion sydd yn ein hwynebu oblegid yr argyfwng hinsawdd.

Adnoddau Ysgolion Cynradd

Tic-Toc: Nofel graffig am ynni, perchnogaeth a chymuned. Nofel graffig ac ymarferion ychwanegol i helpu athrawon i drafod themâu yn cynnwys: hanes ynni, ynni adnewyddadwy, adnoddau naturiol, perchnogaeth ynni, ynni cymunedol a chyfrifoldeb cymunedol. Go gyfer Cyfnod Allweddol 2 & 3.

Ar gael o lyfrgell HWB Cymru yma.

Climate action in your community - a drawing of a group of people

Adnoddau Ysgolion Uwchradd

Helpu’r Hinsawdd yn eich Cymuned! Llyfryn DIY o ymarferion i helpu dysgwyr i daclo gorbryder hinsawdd trwy cyflawni gweithgareddau bychain o fewn yr ysgol, y cartref neu yn y gymuned. Mae yna gyflwyniad Power Point i gyd-fynd â’r adnodd. Go gyfer Cyfnod Allweddol 3 & 4

Gellir lawrlwytho’r llyfryn yma a’r cyflwyniad Power Point yma.

Am unrhyw wybodaeth bellach am yr adnoddau yma, neu os bod eich ysgol â diddordeb yn ymweld gyda’n tyrbin gwynt cymunedol yn Sir Gâr i gyd-fynd gyda’r adnoddau uchod, cysylltwch â’n swyddog cydlynu, Sioned Haf drwy: sioned@ynnisirgar.org