Newyddion
05/03/2020
Prosiect 'Ynni Lleol' arloesol wedi ei lansio yn ardal Llandysul yn ystod COP26

Yn dre farchnad Llandysul yng Ngheredigion, mae prosiect ynni arloesol wedi cael ei lansio yn ystod cynhadledd COP26 sydd yn ceisio taclo'r argyfwng hinsawddbyd-eang. Mae Ynni Lleol Llandysul yn glwb ynni unigryw sydd yn defnyddio ynni adnewyddadwy lleol go gyfer defnydd lleol, er mwyn arbed arian preswylwyr a chefnogi cynhyrchwyr ynni adnewyddadwy yr ardal.
Meddai Ynni Lleol Llandysul:
'Rydyn ni'n gofyn pobol y dre - 'ydych chi am i'ch ynni fod yn lân, yn wyrdd, yn lleol ac am bris rhesymol?' - dyma beth gall cael Clwb Ynni Lleol ei greu i breswylwyr Llandysul. Rydym am ailgreu beth sydd eisoes wedi cael ei gyflawni gan nifer o gymunedau hyd a lled Cymru trwy ddefnyddio ynni hydro. Yn ein hachos ni, mi fyddwn yn defnyddio ynni solar lleol.'

Mi fydd Clwb Ynni Llandysul yn cydweithio â phrosiect ynni solar wedi ei berchnogi gan gwpwl lleol ym Mhont-Tyweli. Wrth baru'r swm o ynni fydd yn cael ei ddefnyddio gan y clwb gyda'r ynni sydd yn cael ei gynhyrchu yn lleol, mae aelodau’r clwb ynamcangyfrif, er gwaethaf bod gan bob gartref anghenion ynni gwahanol, bod bosib arbed rhwng 10-30% ar filiau trydan. Mae’r prosiect yn Llandysul yn ddilyniant ar brosiect arbrofol a llwyddiannus ym Methesda, Gwynedd, a dderbyniodd sylw'r cyfryngau cenedlaethol, ynghyd a phrosiectau eraill ers hynny o Gorwen i Grughywel.
Mae Ynni Sir Gâr, sydd yn cefnogi datblygiad y prosiect, wedi bod yn gweithio gyda phobol leol i gasglu enwau'r rheiny sydd â diddordeb newid eu cyflenwyr er mwyn ymuno a'r clwb, ac yn helpu chwilio am fwy o aelodau i gymryd mantais o fuddion y fenter a chyfrannu tuag at economi lleol werdd.
Meddai Neil Lewis, Rheolwr prosiect Ynni Lleol:
'Mae cael Clwb Ynni Lleol yn gyfle gwych i gymuned ardal Llandysul, i ymuno a phrosiect arloesol i ddefnyddio ynni adnewyddadwy lleol, a drwy hynny, y posibiliad o leihau cost eu biliau trydan. Gall y prosiect hwn hefyd arwain ymlaen tuag at nifer o brosiectau ynni adnewyddadwy eraill yn yr ardal, gan sicrhau fod y gymuned yn buddio o, ac yn cyfrannu tuag at, dyfodol ynni cynaliadwy. Mae'n amserol, yn ystod trafodaethau presennol COP26 yn Glasgow lle rydym yn galw ar arweinwyr y byd i weithredu ar newid hinsawdd, fod Llandysul a chymunedau gwledig eraill ar draws Cymru yn arwain y ffordd trwy greu atebion positif ac arloesol i ateb yr her i drawsnewid i ynni glân. Mae hefyd yn amserol oherwydd y 'hikes' diweddar mewn prisiau ynni. Gall brosiectau Ynni Lleol felly fod yn ateb i sicrhau'r ynni mwyaf glân a fforddiadwy i'n cymunedau mwyaf bregus.'

Os eich bod yn byw yn Llandysul ac â diddordeb yn y fenter, mae'r clwb Ynni Lleol dal i dderbyn aelodau. Mae bosib cofrestru eich diddordeb trwy fynd i wefan Ynni Lleol yma: Ynni Lleol Llandysul
Mae cynllun arall tebyg yn digwydd yng Nghapel Dewi, sydd yn y broses o gael ei lansio, ac fe allwch ddarllen mwy amdani yma: Ynni Lleol Capel Dewi
Nodiadau i'r Golygydd
- Am wybodaeth bellach neu am gyfweliadau: : Jane O’Brien, Cydlynydd Ynni Lleol: 07968748358/jane@ynnisirgar.org | Neil Lewis, Rheolwr Ynni Sir Gar, 07970479802/neil@ynnisirgar.org
- Lluniau ar gael i'w rhannu
- Mwy o wybodaeth am Ynni Sir Gâr yma
- Mwy o wybodaeth am brosiect hydro Ynni Lleol Bethesda yma: https://www.youtube.com/watch?time_continue=10&v=QteRUCPFGWI
- Mae Energy Local CIC wedi datblygu model fusnes sydd yn cynorthwyo cymunedau i baru ei defnydd o ynni trydanol gyda beth sy'n cael ei gynhyrchu yn lleol. Mae'n caniatáu i bobol i gymryd rheolaeth o’u biliau ynni trydan tra hefyd yn cefnogi ynni lleol adnewyddadwy. Cewch restr lawn o'r prosiectau sy'n bodoli ar ei gwefan yma: https://energylocal.org.uk/clubs
- Mae'r prosiect hon mewn partneriaeth â Octopus Energy, cyflenwyr ynni adnewyddadwy.