Ynni Sir Gâr - Newyddion
English

Newyddion

10/05/2020

Gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan Ynni Sir Gâr yn Sir Gâr

Cawsom nifer o ymatebion i'n galwad agored yn ddiweddar, gan amlygu sawl safle addas posibl, ac rydym nawr yn eu hasesu yn fanylach. Gobeithiwn osod 2-3 pwynt gwefru cerbydau trydan y mae Ynni Sir Gâr yn berchen arnynt yn yr ychydig fisoedd nesaf, gyda'r bwriad o osod mwy y flwyddyn nesaf.

Yn ogystal, mae gwaith ar bwyntiau gwefru cerbydau trydan ym meysydd parcio Cyngor Sir Gâr wedi dechrau ac mae'r gwaith rhagarweiniol wedi cael ei gwblhau ar dros ugain o safleoedd. Bydd y broses gomisiynu ar waith yn nes ymlaen eleni, gan fod popeth ar stop ar hyn o bryd yn sgil Covid-19.

Ar hyn o bryd, mae gennym bwyntiau gwefru yn Bowlio Xcel, Treioan a Salem, Llandeilo.

Dychwelyd i'r Newyddion