Newyddion
15/05/2020
Lansio Ynni Lleol yn Llandysul
Mae Clwb Ynni Lleol Llandysul yn rhan o rwydwaith o glybiau ynni arloesol sy'n prysur dyfu ledled Cymru. Pleser Ynni Sir Gâr yw cyhoeddi bod clwb Llandysul bellach ar waith ac yn barod i newid at Octopus Energy (partneriaid Ynni Lleol) fel bod aelwydydd a busnesau bach yn gallu elwa o dariff ynni lleol.
Mae Clwb Ynni Lleol yn system lle mae trigolion a busnesau lleol yn gallu defnyddio ynni a gynhyrchir yn lleol. Pan na fydd ynni lleol yn cael ei gynhyrchu, rydym yn defnyddio tariff a ddarperir gan Octopus Energy fel eich cwmni cyflenwi ynni. Mae tariff lleol Llandysul, o ynni adnewyddadwy a gynhyrchir o'r haul, yn is, ac felly gall bob aelod arbed arian wrth ddefnyddio'r ynni hwn a gynhyrchir yn lleol.
I gael rhagor o wybodaeth rhowch glic ar https://energylocal.org.uk/cy/. . Os ydych chi'n byw yn yr ardal, gallwch gofrestru eich diddordeb mewn ymuno trwy ddewis clwb ‘Llandysul’ a sgrolio i lawr i bwyso'r botwm 'Mae gennyf ddiddordeb'.
Mae Clwb Ynni Lleol Llandysul yn cynnwys yr ardaloedd canlynol: Llandysul, Croeslan, Ffostrasol, Saron, Drefach, Felindre, Rhos, Penboyr, Hermon, Elfred, Drefelin, Trelech, Dinas, Blaen-y-Coed, Bancyffordd, Pencader, Dolgran ac Alltwalis a'r cyffiniau.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau e-bostiwch Jane - jane@ynnisirgar.org
Dychwelyd i'r Newyddion