Ynni Sir Gâr - Newyddion
English

Newyddion

05/03/2020

Diddordeb mewn pwyntiau gwefru cerbydau trydan?

Oes gyda chi ddiddordeb mewn pwyntiau gwefru cerbydau trydan (EV charge points)?

Mae Ynni Sir Gâr yn chwilio am sefydliadau i gynnal pwyntiau gwefru cerbydau trydan.

Mi fydd Ynni Sir Gâr yn gallu delio â’r costau darparu a gosod, a holl gostau rhedeg y pwynt, ar wahân i’r cyflenwad o drydan. Mi fydd y rheiny sydd yn dewis cael pwynt gwefru yn buddio drwy gael mwy o fasnach gan ddefnyddwyr cerbydau trydan sydd yn edrych i ddefnyddio cyfleusterau lleol wrth iddynt wefru.

Yn ddelfrydol bydd y rheini fydd yn cynnal pwynt gwefru yn anelu tuag at gynyddu eu niferoedd o ymwelwyr, ac wedi ei lleoli yn agos tuag at brif ffyrdd neu ardaloedd eraill lle mae galw uchel am EV.

Am fwy o wybodaeth e-bostiwch gareth@ynnisirgar.org. Anfonwch fynegiad o ddiddordeb erbyn yr 22ain o Fawrth, er mi fydd ymatebion ar ôl y dyddiad hwn yn cael ei ystyried hefyd.

Dychwelyd i'r Newyddion