Cronfa Gymunedol
Mae ein tyrbin gwynt cymunedol yn Rhydygwydd, Salem wedi bod yn cynhyrchu ynni trydanol adnewyddadwy er mis Mehefin 2016. Erbyn hyn, rydym wedi cyrraedd y sefyllfa lle allwn ail-fuddsoddi rhan o'r elw nôl yng nghymunedau Sir Gaerfyrddin. Mae gyda ni swm o £20,000 i'w ail fuddsoddi mewn prosiectau sydd yn taclo materion tlodi tanwydd. Bydd y swm hwn yn cael ei rhannu ymysg nifer o brosiectau cymunedol neu fusnesau sydd yn gweithio o fewn eu cymunedau i daclo herion costau byw mewn perthnasedd ag ynni.
Rydyn ni am gefnogi prosiectau yn Sir Gâr sydd yn mynd i'r afael gyda'r argyfwng ynni presennol. Rydym yn gwahodd ceisiadau sydd yn taclo tlodi tanwydd a chostau byw mewn perthnasedd ag egni. Rydym yn derbyn ceisiadau rhwng £1,000 a £10,000. Rhaid bod y ceisiadau o fudiadau cymunedol neu fusnesau neu grwpiau sydd yn darparu gwasanaethau hanfodol i'w cymunedau ac sydd wedi eu sefydlu ac yn gweithredu o fewn Sir Gâr.
Byddwn yn dewis y cais/ceisiadau llwyddiannus wedi ei seilio ar nifer o feini prawf gan gynnwys:
- Impact Cymunedol
- Ymrwymiad Cymunedol
- Cynaliadwyedd
- Caffaeliad Lleol
- Buddion hir dymor
Lawrlwythwch manylion pellach a'r ffurflen gais yma. Os hoffech chi fwy o fanylion neu â chwestiynau pellach am y gronfa, cysylltwch Ynni Sir Gâr drwy e-bostio: neil@ynnisirgar.org
Dyddiad cau i dderbyn ceisiadau: 01/12/22