Ynni Sir Gâr - Amdanom Ni
English

Clwb Ceir Trydan Dinefwr

Mae Ynni Sir Gâr yn llawn brwdfrydedd i fod yn gweithio gyda phartneriaid yn TrydaNi ac Ynni Cymunedol Cymru i ddatblygu prosiect i sefydlu clwb ceir trydan cymunedol yn Nyffryn Dinefwr. Pwrpas y clwb yw i gynnig opsiwn fforddiadwy i bobol leol gallu teithio yn fwy cynaliadwy, lle nad yw trafnidiaeth gyhoeddus yn gyfleus neu drafnidiaeth actif yn amhosib. Mae hefyd â’r nod o annog cartrefi sydd â mwy nag un car, i ystyried defnyddio’r car yn y clwb fel ei ail gar pan fo ei hangen (er mwyn lleihau'r nifer o geir petrol a disel sy’n teithio ar hyd ein ffyrdd).

Mae’r car ar gael ac ar eich cyfer chi, felly ymunwch â’r clwb! Cysylltwch â Sioned o Ynni Sir Gâr er mwyn clywed mwy a mynd ati i ddod yn aelod. Gallwch hefyd darllen mwy ynglŷn â’r prosiect ar wefan TrydaNi yma.

Ar hyn o bryd, mae’r car ar y cyd ym Maes Parcio Castell Llanymddyfri. Mae Cyngor Sir Gâr wedi bod yn garedig i ni gadw’r car yma tan ddiwedd yr Haf, felly os hoffech gael tro, cysylltwch. Er mwyn rhoi syniad o gostau, cymerwch olwg ar ein rhestr o esiamplau o deithiau gwahanol yma.

Mae’r prosiect hon yn cael ei hariannu gan y Loteri Genedlaethol.